Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu mynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a godwyd yn ei chwynion iddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r holl bryderon a godwyd yn y cwynion yn ei ymatebion i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am beidio â rhoi sylw llawn i’w phryderon ac i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.