Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar daid fel claf mewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cyfeirio at y newid cathetr a gafodd ei thaid cyn iddo gael sgan a nododd bod y cathetr wedi cael ei gamosod.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi penderfynu yn ei ymateb, ar sail tebygolrwydd, bod y cathetr wedi cael ei osod yn anghywir a’i fod wedi symud, nad oedd wedi cyfeirio at y ffaith bod y cathetr wedi cael ei newid 2 ddiwrnod ynghynt, nac wedi egluro a oedd hyn wedi cael ei ystyried. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n anfon ymateb pellach o fewn 1 mis i fynd i’r afael â’r newid cathetr, ac ymddiheuro na chyfeiriwyd at hyn o’r blaen.