Roedd yr ymchwiliad i gŵyn Mrs A yn canolbwyntio ar a oedd ei diweddar fab, Mr B, wedi cael gofal, diagnosis a thriniaeth briodol ac amserol mewn perthynas â methiant yr afu, gan gynnwys ystyried atgyfeirio am drawsblaniad afu. Ar ben hynny, a oedd y cymorth a’r driniaeth a gynigiwyd gan dîm Cyswllt Alcohol (ALN) cleifion mewnol Ysbyty Gwynedd a’r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (SMS) yn y gymuned yn briodol ac yn amserol.
Ni chadarnhawyd cwynion Mrs A. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod Mr B wedi cael gofal priodol ac amserol yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, gan gynnwys o ran diagnosis a thriniaeth ar gyfer methiant yr afu. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod defnydd Mr B o alcohol yn golygu na fyddai wedi bod yn ymgeisydd ar gyfer trawsblaniad afu o dan y canllawiau perthnasol. Hyd yn oed wrth roi hyn o’r neilltu, byddai iechyd corfforol Mr B, ei arferion ysmygu a’r ffaith ei fod dros ei bwysau’n ddifrifol wedi golygu nad oedd trawsblaniad afu yn bosibilrwydd iddo.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad hefyd fod y cymorth a’r driniaeth a gafodd Mr B gan y tîm ALN a oedd yn ymwneud â’i ofal a’r SMS hefyd yn briodol ac yn amserol.