Dyddiad yr Adroddiad

26/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202506407

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi darparu gofal cathetr hylan a di-haint, nac wedi rhoi help iddi i ddefnyddio’r cathetr, pan oedd yn glaf mewnol. Mae Mrs A yn credu bod hyn wedi arwain at yr haint a ddioddefodd.

Nododd yr Ombwdsmon fod cofnod bod Mrs A yn cael fflyshio ei chathetr bob awr, fodd bynnag, nid oedd dogfennaeth i gadarnhau’r prosesau penderfynu clinigol.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i Mrs A, o fewn 4 wythnos, ar y mater a nodwyd ac, os yn bosibl, i egluro pam fod fflyshio bob awr wedi’i gofnodi. Hefyd, dylai ail ystyried ac ymateb i bryder Mrs A bod y gofal a’r driniaeth wedi cyfrannu at yr haint, yng ngoleuni’r mater a nodwyd.