Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gwneud diagnosis o ganser pledren ei dad, Mr A, mewn modd amserol ar ôl iddo gael ei atgyfeirio gan ei Feddyg Teulu ar 19 Gorffennaf 2023.
Canfu’r ymchwiliad oedi o ran y diagnosis a’r driniaeth ar gyfer canser y bledren Mr A a bod methiannau wedi digwydd. Fodd bynnag, canfu hefyd nad oedd yn debygol y byddai canlyniad trist Mr A wedi bod yn wahanol pe bai’r gofal a’r driniaeth wedi bod yn fwy prydlon, oherwydd natur ffyrnig y ei ganser. Er hynny, canfu fod Mr A wedi profi anghyfiawnder gan ei fod wedi colli’r cyfle i gael sicrwydd am ei gyflwr a chael gofal lliniarol yn gynharach. O ganlyniad cadarnhawyd y gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mr B, ac i gyflwyno trefn i olrhain cleifion ag amheuaeth o ganser i sicrhau bod unrhyw oedi’n weladwy. Cytunodd hefyd i gynnal archwiliad o bob claf lle mae amheuaeth o ganser malaen ac sy’n aros am 2 neu fwy o driniaethau cyfunol i asesu a yw’r ddwy driniaeth yn angenrheidiol i wneud diagnosis o ganser malaen. Os nad oes eu hangen, dylid trefnu gweithdrefn ddiagnostig a’i chynnal ar ei phen ei hun os byddai hyn yn sicrhau ymchwiliad mwy amserol i wneud diagnosis o ganser malaen.