Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403835

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y rheolaeth a gofal orthopedig a gafodd yn Ysbyty Glan Clwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, roedd cwyn Mr A yn ymwneud â phriodoldeb y penderfyniad i’w atgyfeirio am ymyriad arbenigol yn 2023 am dorasgwrn y forddwyd (asgwrn y glun) nad oedd yn gwella ac iddo gyfyngu ar faint o bwysau roedd yn ei roi ar y goes honno. Roedd Mr A yn bryderus bod yr oedi cyn cael ffisiotherapi wedi amharu ar ei wellhad.

Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad ei bod yn glinigol briodol bod Mr A yn cyfyngu ar y pwysau (“PWB”) roedd yn ei roi ar y goes honno (“PWB”) rhwng Awst a Hydref 2023, o ystyried bod rhannau o asgwrn y forddwyd Mr A nad oedd yn gwella. Fodd bynnag, nododd Ombwdsmon y dylai pelydr-x mwy diweddar fod wedi’i gynnal cyn y penderfyniad i wneud atgyfeiriad arbenigol ac i Mr A barhau i PWB a wnaed ym mis Rhagfyr. Pe bai hyn wedi digwydd, efallai y byddai’r pelydr-x wedi dangos bod asgwrn y forddwyd yn gwella ac y byddai hynny wedi arwain at newid ei statws PWB.

Dangosodd yr ymchwiliad fod Mr A yn ystod y cyfnod hir (Rhagfyr 2023 i Fai 2024) wedi parhau’n PWB, roedd y monitro a’r broses o drefnu atgyfeiriad arbenigol ac adolygiadau clinig dilynol yn annigonol. Bydd yn rhaid i Mr A fyw â’r ansicrwydd o beidio â gwybod a allai’r ffisiotherapi a fyddai wedi ei helpu i wella fod cael ei roi’n gynharach. Mae hyn yn anghyfiawnder iddo. Ac i’r graddau hyn cafodd cwyn Mr A ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni nifer o argymhellion. Yn ganolog i hyn oedd ymddiheuro i Mr A, bod y clinigydd yn dysgu drwy rannu’r adroddiad hwn, ac o ran anfon atgyfeiriadau arbenigol ymlaen, ei fod yn adolygu ac yn dangos tystiolaeth i’r swyddfa hon bod trefniadau effeithiol ar waith i glinigwyr i fonitro a gwirio cynnydd ar yr atgyfeiriadau hyn, neu gyflwyno cynllun gweithredu sy’n dangos sut y caiff hyn ei gyflawni.