Cwynodd Ms A na wnaeth y Bwrdd Iechyd ddarparu safon dderbyniol o ofal a thriniaeth.
Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin â phryderon Ms A ynghylch materion yn ymwneud â rhyddhau o’r ysbyty, a haint a gafwyd tra roedd hi’n glaf yn yr ysbyty.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, a chafodd ei gytundeb, i roi ymateb i’r gwyn sy’n ymdrin â’r pryderon hyn o fewn mis.