Dyddiad yr Adroddiad

29/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509135

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss M fod Ysbyty Treforys, sy’n rhan o’r Bwrdd Iechyd, wedi methu ag adnabod a rheoli’r risg o sepsis a wynebid gan ei thad, y diweddar Mr L, yn briodol. Yn ogystal, cwynodd na chafodd sepsis ei thad ei ddiagnosio na’i drin yn brydlon. Yn olaf, roedd Miss M yn anfodlon ar y ffordd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chwyn.

Nododd yr ymchwiliad ddiffygion o ran adnabod a rheoli sepsis Mr L, yn ogystal â’i ddiagnosio a’i drin. Arweiniodd hyn at oedi wrth ddiagnosio’r posibilrwydd bod ganddo sepsis ac wrth roi gwrthfiotigau. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai canlyniad sefyllfa Mr L – ac yn anffodus, ei farwolaeth – wedi bod yn wahanol. Serch hynny, collodd Miss M a’r teulu y sicrwydd a’r ymdeimlad o ddod i ben â’r mater a ddaw pan wneir popeth posibl o ran rheolaeth a thriniaeth. Mae hyn yn anghyfiawnder yn eu herbyn, a dim ond i’r graddau cyfyngedig hwn y cadarnhawyd y rhannau hyn o gwyn Miss M.

Canfu’r ymchwiliad ddiffygion yn y ffordd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â chwynion, gan gynnwys diffyg cadernid yn yr ymateb a roddwyd i’r gwyn. Achosodd hyn, ynghyd â’r oedi wrth ymateb, anghyfiawnder i Miss M a’i theulu; gwaethygodd eu trallod yn sylweddol, tanseiliodd eu hyder yn y broses gwyno, ac oedodd y broses o gael atebion – ac felly, o ddod i ben â’r mater. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar gwyn Miss M hefyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu nifer o argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys ymddiheuro; talu swm o £250 i Miss M am yr amser a’r drafferth a achoswyd iddi hi a’i theulu oherwydd y ffordd wael yr ymdriniwyd â’r gwyn; ac, er mwyn dysgu gwersi, adolygu ymhellach y ffordd y rheolwyd gwrthfiotigau ar gyfer Mr L.