Cwynodd Ms Q am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr T, rhwng 14 a 20 Hydref 2022 yn Ysbyty Treforys.
Yn benodol, fe wnaethom ystyried:
• Rheolaeth yr ysbyty o ofal arennol Mr T, ac a effeithiodd unrhyw oedi gyda rhoi sylw i’w orlwyth hylifol ac mewn dechrau dialysis a chyffuriau steroid ar ei farwolaeth.
• A oedd gofal nyrsio Mr T yn briodol, ac a gafodd haint ar ei goes a sepsis eu hadnabod yn briodol.
• A ddylai’r staff nyrsio fod wedi adnabod bod Mr T yn dirywio ar 19 Hydref.
Casglodd yr ymchwiliad fod rheolaeth yr ysbyty o ofal arennol Mr T yn briodol ac nad oedd unrhyw oedi gyda rhoi sylw i’w orlwyth hylifol a gyda dechrau dialysis a chyffuriau steroid.
Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod gofal nyrsio Mr T yn briodol, a bod arwyddion o haint wedi cael sylw dioed. Nid oedd tystiolaeth ychwaith i ddangos bod staff nyrsio wedi methu ag adnabod bod Mr T yn dirywio ar 19 Hydref. Ni dderbyniwyd y cwynion hyn.