Dyddiad yr Adroddiad

16/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509567

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn benodol ei fod wedi gohirio ei driniaeth ar gyfer canser yn ddiangen ac wedi mynd y tu hwnt i’r llwybr 62 diwrnod o ganser a amheuir i driniaeth.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn llawn i gŵyn Mr S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi cadarnhad, o fewn 5 diwrnod, i Mr S y byddai ei gŵyn am ddigwyddiadau nad oedd wedi mynd i’r afael â nhw yn cael ei hymchwilio’n llawn yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Iawndal) (Cymru) 2011.