Cwynodd Mr B ynghylch a oedd llawdriniaeth amnewid clun a drefnwyd ac a ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) ac a berfformiwyd yn Nuffield Health – Ysbyty’r Dyffryn (“yr Ysbyty Preifat”) wedi’i chynnal i safon briodol a’r gofal ôl-weithredol a gafwyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y prosthesis a ddefnyddiwyd yn y llawdriniaeth amnewid clun yn rhy fach, a oedd yn cario risg hysbys o lacio cynnar. Er na ellid dileu’r risg hon yn llwyr, ni chymerwyd mesurau a allai fod wedi lleihau’r risg. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr B.
Pan adroddodd Mr B am bryderon yn dilyn y llawdriniaeth, roedd y camau a gymerwyd yn briodol ac yn amserol. Ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr B.
Pan gwynodd Mr B i’r Bwrdd Iechyd, ni ddywedwyd wrtho y dylai gwyno’n uniongyrchol i’r Ysbyty Preifat, ac er bod ymateb i’r gŵyn wedi’i gyhoeddi, ni wnaeth fynd i’r afael yn llawn â holl bryderon Mr B.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd a’r Ysbyty Preifat argymhellion yr Ombwdsmon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am y methiannau wrth ymdrin â’i gŵyn ac i sicrhau bod ei staff a allai ddelio â chwynion am ofal a gomisiynwyd, yn ymwybodol o’r weithdrefn gywir ar gyfer gwneud hynny.
Cytunodd yr Ysbyty Preifat i ymddiheuro i Mr B am ei fethiant i liniaru’r risg y byddai’r prosthesis yn methu, a chynnig taliad iawndal o £750 iddo ac i rannu’r adroddiad gyda’r Llawfeddyg a gynhaliodd lawdriniaeth Mr B fel y gellir ystyried a thrafod y canfyddiadau.