Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502324

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ystyriodd yr Ombwdsmon a oedd yr ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd i diwmor niwroendocrin a amheuir (“NET” – math prin o ganser sy’n effeithio ar y celloedd sy’n rhyddhau hormonau i’r llif gwaed) yn briodol ac yn amserol.

Canfu’r ymchwiliad fod yr ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd i diwmor niwroendocrin a amheuir yn briodol ac yn amserol. Er bod rhai canfyddiadau gwrthgyferbyniol o brofion a gweithdrefnau a oedd wedi ymestyn y llwybr triniaeth, roedd ymchwiliadau dilynol yn briodol yn glinigol. Ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o oedi diangen a bod Mrs D wedi cael gwybod am y canfyddiadau a’r cynlluniau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.