Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408596

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i gŵyn a wnaed ganddi ym mis Chwefror 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mrs X am yr oedi, ymateb i’r gŵyn a chynnig iawndal o £150 i gydnabod yr oedi, a hynny o fewn pedair wythnos.