Dyddiad yr Adroddiad

08/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201544

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs X am safon y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr X, ar ôl iddo gael canlyniad positif am COVID-19. Yn benodol, cwynodd fod cyfleoedd i’w drin, fel claf bregus, gyda meddyginiaeth wrthfeirol wedi cael eu colli. Roedd Mrs X yn poeni na ddylai fod wedi cael ei ryddhau yn y lle cyntaf o Ysbyty Athrofaol y Faenor ac y dylid bod wedi rhoi triniaeth ychwanegol iddo ar gyfer COVID-19. Cwynodd fod y Meddyg Teulu wedi rhoi presgripsiwn am wrthfiotigau iddo yn dilyn ymgynghoriad dros y ffôn yn hytrach na chael ei weld gan y Meddyg Teulu. Pan gafodd Mr X ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach gyda symptomau COVID-19, roedd Mrs X yn teimlo bod oedi cyn darparu triniaeth wrthfeirol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad i ryddhau Mr X o Ysbyty Athrofaol y Faenor yn rhesymol gan na fu angen triniaeth benodol arno am COVID-19 yn yr ysbyty ar y pwynt hwnnw. Nid oedd ei gyflwr wedi bodloni’r meini prawf cenedlaethol ar gyfer rhoi meddyginiaeth gwrthfeirol. Ar ôl cael ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru, roedd cyflwr Mr X wedi dirywio, ac aseswyd bod angen y driniaeth wrthfeirol arno. Cafodd bresgripsiwn am hynny o fewn amserlen briodol. Roedd y ffordd y rhoddodd y Meddyg Teulu’r presgripsiwn am wrthfiotigau yn briodol gan ei fod yn seiliedig ar hanes manwl ac asesiad dros y ffôn o symptomau Mr X. Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw fethiannau o ran y gofal a roddwyd ac ni chadarnhaodd y cwynion.