Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105761

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X am y gofal a ddarparwyd pan aeth i’r Adran Achosion Brys gyda phoen yn y frest. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried, o wybod symptomau Mr X a hanes clinigol ei galon, a gynhaliwyd archwiliadau ac ymchwiliadau priodol ar 17 Gorffennaf 2020, a oedd unrhyw arwydd bod symptomau Mr X yn rhai cardiaidd o ran natur a bod trawiad ar y galon ar y gorwel, ac a oedd y diagnosis a roddwyd i Mr X ar 17 Gorffennaf 2020 yn briodol yn glinigol.

Canfu’r ymchwiliad y cynhaliwyd archwiliadau ac ymchwiliadau priodol ar 17 Gorffennaf ac felly ni chadarnhawyd y gŵyn hon.

Canfu’r ymchwiliad fod arwyddion clir bod symptomau Mr X yn rhai cardiaidd eu natur, ond nad oedd y symptomau hyn yn cael eu hystyried yn briodol ar y cyd â chanlyniadau profion a oedd yn ymddangos yn galonogol. Fodd bynnag, gan nad oedd yn bosib dweud, gydag unrhyw sicrwydd, naill ai fod trawiad ar y galon ar fin digwydd neu y gellid bod wedi’i osgoi, dim ond yn rhannol y cadarnhawyd y gŵyn hon.

Canfu’r ymchwiliad o ran y diagnosis a roddwyd i Mr X ar 17 Gorffennaf, bod ei symptomau’n debygol o fod yn ganlyniad i broblemau cyhyrysgerbydol neu adlifiad asid, yn briodol ac felly cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X am y methiannau a nodwyd ac i rannu’r adroddiad â staff clinigol sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth cleifion sy’n dod i’r Adran Achosion Brys gyda phoen yn y frest ac ailadrodd pwysigrwydd ystyried hanes cleifion ochr yn ochr â chanlyniadau profion wrth benderfynu ar ddiagnosis.