Cwynodd Mrs A am y gofal a dderbyniodd ei mab gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) ar gyfer ei alergeddau anaffylactig.
Cwynodd hefyd am sut y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio nac ymateb yn briodol i gŵyn Mrs A. Cafodd gŵyn gyntaf Mrs A ei chau heb i’r Bwrdd Iechyd roi gwybod iddi, roedd sawl achos o oedi heb eglurhad, ac nid oedd yr ymateb terfynol wedi delio’n glir â’r pryderon am ei chais i gael ei chyfeirio at ganolfan alergeddau. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn ail-ystyried y cais i gyfeirio a rhoi ymateb pellach yn amlinellu ei benderfyniad, a phe bai’n penderfynu cyfeirio, y byddai hyn yn cael ei wneud o fewn pythefnos i’r ymateb hwnnw.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd, o fewn 4 wythnos, y byddai’n ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Mrs A am yr oedi gydag ymateb i’w chŵyn, gan hefyd egluro’r oedi a bod ei chŵyn gyntaf wedi cael ei chau.