Dyddiad yr Adroddiad

28/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505998

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr, Mr B, gan y Bwrdd Iechyd cyn iddo farw ar 14 Hydref 2024. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y methiannau a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd o ran ei ofal am Mr B rhwng Awst a Hydref 2024 wedi cyfrannu at ei ddirywiad. Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd rhyddhau Mr B ar 6 Medi’n briodol ac yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Casglodd yr Ombwdsmon fod rhyddhau Mr B o’r ysbyty ar 6 Medi’n briodol a rhesymol. Nid oedd y diffyg crynodeb o gyngor rhyddhau gan y Bwrdd Iechyd i’r teulu a’u meddyg teulu’n briodol, ac yn fethiant yr oedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi’i adnabod a’i gydnabod ac yn cymryd camau i’w gywiro.

Casglodd yr Ombwdsmon y gallai’r diffyg cyngor rhyddhau a chyfathrebu gyda gofal sylfaenol, a’r diffyg mynediad at ganlyniad y sgan CT wedyn, fod wedi golygu y gallai opsiynau rheoli eraill fod wedi cael eu hystyried pan oedd Mr B yn dirywio ac wedi gofyn am gyngor o’r 7 Hydref ymlaen. Fodd bynnag, nid oedd y cyngor a roddwyd i Mr a Mrs B ar y pryd yn afresymol, o ystyried nad oedd Mr B mae’n debyg yn ffit ar gyfer ymyriad llawdriniaeth. Casglodd yr ymchwiliad nad oedd y methiannau a dderbyniwyd yn barod gan y Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu at ddirywiad Mr B ac mae’n debyg na fyddai hyn wedi newid y canlyniad trist i Mr B yn yr achos hwn. Ni dderbyniwyd y gŵyn.