Dyddiad yr Adroddiad

20/04/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502263

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr F am y gofal a gafodd ei dad, Mr G, gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn diagnosis o diwmor ymosodol ar yr ymennydd, gan gynnwys rheoli risg codymu Mr G a’i angen posibl am ofal hosbis rhwng mis Ionawr a mis Mai 2023. Cwynodd Mr F hefyd am sut y rheolwyd meddyginiaeth Mr G a lefelau siwgr gwaed, a’r cyfathrebu â’r teulu yn ystod arhosiad olaf Mr G yn yr ysbyty rhwng 22 a 30 Mai.

Canfu’r ymchwiliad fod problemau cydbwysedd a chodymu, yn anffodus, yn ganlyniad anochel i ddiagnosis a dirywiad Mr G, ond roedd yn amharod i dderbyn ymyriadau ac yn diystyru pryderon ac awgrymiadau ar gyfer cymorth. Yn yr un modd, roedd Mr G eisiau aros yn ei gartref ei hun. Roedd gan Mr G y gallu i wneud y penderfyniadau hyn ac nid oedd unrhyw fethiannau ar ran y Bwrdd Iechyd o ran ystyried pa lefel – a lleoliad – gofal a chymorth oedd yn briodol. Ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.

O ran derbyn Mr G yn glaf mewnol, canfu’r ymchwiliad fod dosau o steroidau a meddyginiaeth pwysedd gwaed Mr G wedi cael eu methu o bryd i’w gilydd, ac nad oedd ei lefelau siwgr gwaed yn cael eu monitro mor aml ag y dylent fod. Fodd bynnag, nid oedd Mr G bob amser yn cydymffurfio i gymryd ei feddyginiaeth na chael profion gwaed. Ar ben hynny, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y pethau hyn wedi cael unrhyw effaith glinigol ar Mr G na datblygiad ei glefyd. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod diweddariadau priodol yn cael eu darparu i’r teulu, a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu pan ofynnwyd amdani. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu y gallai staff yr ysbyty fod wedi gwybod (ac felly wedi paratoi’r teulu) am dranc sydyn Mr G. Ni chadarnhawyd y pryderon hyn ychwaith.