Dyddiad yr Adroddiad

18/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509582

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w chŵyn, a wnaed ym mis Tachwedd 2024, ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb i’w chŵyn i Mrs A a bod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs A gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, cynnig talu £150 i gydnabod yr oedi a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 1 mis i benderfyniad yr Ombwdsmon.