Cwynodd Mr J fod asesiad risg ar y cyd a gynhaliwyd gan y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd ac a ddarparwyd i Ddarparwr Tai â Chymorth (SHP) wedi hepgor gwybodaeth allweddol am anghenion ei fab. Arweiniodd hyn at ei roi mewn lleoliad yr oedd Mr J yn ei ystyried yn anaddas.
Cwynodd Mr J hefyd nad oedd y Cyngor yn fodlon cynnal ei ymchwiliad ei hun i’w bryderon ynghylch yr asesiad risg pan na wnaeth ymchwiliad ar y cyd arfaethedig gyda’r Bwrdd Iechyd ddatblygu ymhellach.
Canfu’r ymchwiliad yn erbyn y Cyngor fethiannau ynghylch dogfennaeth a sut yr oedd agweddau ar rôl y cydlynydd gofal wedi’u cyflawni. Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, cyn y lleoliad, fod y SHP wedi cael digon o wybodaeth allweddol am anghenion mab Mr J gan y Bwrdd Iechyd a oedd yn rhan ar y cyd o gomisiynu’r lleoliad. Mewn perthynas â’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd, ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr J.
Canfu’r Ombwdsmon fod cyfle i’r Cyngor nodi a dysgu gwersi o gŵyn Mr J wedi’i golli gan ei benderfyniad i beidio â chynnal ei ymchwiliad ei hun. Yr anghyfiawnder i Mr J oedd bod yn rhaid iddo gwyno ymhellach er mwyn cael atebion. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr J.
Roedd yr argymhellion i’r Cyngor yn cynnwys ymddiheuro i Mr J a chynnal archwiliad ar draws y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn bodloni ei hun bod gofynion rôl y cydlynydd gofal, yn ogystal â phrosesau a systemau ehangach, yn cael eu bodloni. Fel rhan o’r broses archwilio, gofynnwyd i’r Cyngor ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen.
Gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i ymgysylltu â’r Cyngor ynghylch yr argymhelliad archwilio a nodir uchod, gan y byddai hyn hefyd yn rhoi cyfle i sicrhau bod unrhyw bwyntiau dysgu ehangach ynghylch systemau a phrosesau mewn perthynas â gofal a gomisiynwyd ar y cyd yn cael eu ehangu i’r eithaf.