Cwynodd Mrs M fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i Mrs M. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs M ac i ddarparu esboniad llawn am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnig taliad iawndal o £50 i Mrs M ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.