Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106924

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Yn 2019, cafodd Ms A gastrectomi llawes laparosgopig (triniaeth feddygol i golli pwysau) yn Ysbyty Singleton. Cwynodd Ms A yn ddiweddarach am bendro, bwyd yn mynd yn sownd yn yr oesoffagws, ac adlifiad. Cwynodd Ms A na chafodd y bwyd na allai ei fwyta ei ystyried yn ystod ymgynghoriad dros y ffôn ar 16 Tachwedd 2021, ac na chafodd ei chyfeirio am brawf manometreg (i fesur y pwysedd yn y corn gwddf a’r falf sy’n gwahanu’r stumog a’r oesoffagws). Cwynodd Ms A hefyd na chafodd unrhyw gyswllt â’r Gwasanaethau Bariatrig ers 4 Ionawr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhestr o fwyd na allai Ms A eu goddef wedi’i hanfon gan ddietegydd a nyrs at yr Ymgynghorydd cyn yr ymgynghoriad ar 16 Tachwedd 2021, ac fe fyddai’r rhain wedi cael eu hystyried. Canfu hefyd, er ei fod yn hwyr, fod Ms A wedi cael ei chyfeirio am brawf manometreg. Er bod oedi gyda’r atgyfeiriad, nid oedd wedi arwain at anghyfiawnder i Ms A. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd llythyr/cofnod clinigol o’r ymgynghoriad hwn, ac ar y sail honno’n unig cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y cyswllt a wnaed â Ms A hyd at 4 Ionawr 2022 yn briodol. Canfu fod y canllawiau llawfeddygol ôl-bariatrig yn argymell trefnu apwyntiadau dilynol yn rheolaidd â chleifion am hyd at 2 flynedd, ac y gwnaed hynny â Ms A am bron i 3 blynedd. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis: ymddiheuro i Ms A am y methiant a thynnu sylw’r staff perthnasol at bwysigrwydd cynnal a chadw llythyrau/cofnodion clinigol ar gyfer pob ymgynghoriad.