Dyddiad yr Adroddiad

05/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107550

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs D y dylid bod wedi cynnal sganiau dilynol neu ychwanegol yn gynharach ac nad oedd ei phresgripsiwn o feddyginiaeth i deneuo’r gwaed wedi’i adolygu yn dilyn canlyniad yr Angiogram Pwlmonaidd Tomograffeg Gyfrifiadurol (“CTPA”, sgan sy’n chwilio am geuladau gwaed yn yr ysgyfaint).

Yn ogystal, roedd y gofal nyrsio a dderbyniodd yn is na’r safon resymol ac ni dderbyniodd gathetr (tiwb sy’n cael ei osod yn y bledren, sy’n galluogi i wrin lifo’n rhydd), er gwaethaf ei chais am y weithdrefn hon. Yn olaf, ni chynigiwyd ac ni threfnwyd cymorth iechyd meddwl.

Yn dilyn hyn, penderfynodd Mrs D i fynd ar drywydd Rhwymedi Cyfreithiol Amgen ac felly dygodd yr Ombwdsmon ei chwyn i ben. Gan na wnaed unrhyw ganfyddiadau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gŵyn hon.