Cwynodd Mrs A am gamau gweithredu Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch darpariaeth ysgol ei mab. Roedd ei phryderon yn cynnwys materion yn gysylltiedig â darparu lleoliad ysgol priodol a sut yr ymdriniodd y Cyngor â materion.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs A yn flaenorol ym mis Hydref 2025, fod digwyddiadau dilynol wedi digwydd a bod rhai agweddau ar y mater wedi’u hystyried gan Dribiwnlys Addysg Cymru. Er bod cytundeb y Cyngor i ddarparu lleoliad ysgol wedi datrys rhan o’r anghydfod sylfaenol, nid oedd yn ymddangos bod nifer o bryderon a godwyd gan Mrs A wedi’u hystyried na’u penderfynu drwy’r broses honno. Yn ogystal, efallai bod gwybodaeth a gododd ers ymateb y Cyngor i’r gŵyn ym mis Hydref 2025 wedi cael effaith ar faterion a gafodd sylw blaenorol. Ystyriodd yr Ombwdsmon nad oedd Mrs A wedi cael cyfle llawn i gael ei holl bryderon wedi’u hystyried yn briodol a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mrs A o fewn pythefnos i drafod a chytuno ar gwmpas ei chŵyn, rhoi cyfle iddi nodi unrhyw bryderon newydd a gododd ers mis Hydref 2025, unrhyw agweddau ar ei chŵyn wreiddiol yr oedd hi’n ystyried nad oeddent wedi cael sylw llawn, ac unrhyw bryderon nad oeddent wedi cael eu hystyried yn llawn gan Dribiwnlys Addysg Cymru. Cytunodd y Cyngor hefyd i ymateb i’r pryderon hynny drwy ei broses gwyno.