Dyddiad yr Adroddiad

13/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202506465

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwyn am y camau a gymerwyd gan Gyngor am ddarpariaeth cludiant ysgol a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer ei phlant. Mynegodd bryderon am nad oedd y Cyngor wedi cytuno i ymchwilio i’w chwynion. Cytunodd ER i’r Cyngor:

  • ymchwilio i gŵyn Mrs A am y penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor ynglŷn â darparu cludiant ysgol i’w phlant ac am yr oedi a oedd yn parhau o ran darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Cytunodd i baratoi ymateb llawn i Mrs A, gan ddisgrifio’r camau a gymerwyd gan y Cyngor yn unol â pholisïau perthnasol. Cytunodd y Cyngor i gadarnhau wrth Mrs A beth yw’r opsiynau presennol sydd ar gael i helpu â chludiant a statws cyfredol unrhyw opsiynau cymorth gofal cymdeithasol sydd ar gael i’r ddau blentyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.