Cwynodd Mrs A nad oedd Trivallis wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch y gwaith sydd angen ei gwblhau yn yr eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Tai wedi darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ddarparu ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 3 wythnos, a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi.