Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2026

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202506755

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Trivallis (“y Gymdeithas Tai”) wedi dilyn gweithdrefnau Diogelu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (“ASB”) mewn ymateb i bryderon a godwyd ganddi. Dywedodd nad oedd y Gymdeithas Tai wedi ymateb i’w gohebiaeth o fewn amserlenni rhesymol, nac wedi cydymffurfio â’i bolisi cwynion.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi ymateb yn briodol i bryderon Diogelu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Ms A. Roedd wedi ymateb yn briodol i’r rhan fwyaf o gwynion Ms A o fewn amserlenni rhesymol, ond fe ymddengys fod peth dryswch pan nad oedd swyddogion unigol ar gael ac na chafodd peth gohebiaeth gydnabyddiaeth nac ymateb. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon cytundeb y Gymdeithas Tai i baratoi ymateb terfynol i Ms A sy’n ymdrin ag unrhyw ohebiaeth nad oedd wedi ymateb iddi cyn hyn ac i gynnig ymddiheuriad am unrhyw oedi. Cytunodd i gynnwys manylion clir ar adrodd ar unrhyw bryderon yn y dyfodol ac amserlenni y bydd yn anelu atynt wrth ymateb, ac i adolygu’r defnydd o negeseuon allan o’r swyddfa ac un pwynt cysylltu, i sicrhau cysondeb wrth ymateb i ohebiaeth os na fydd swyddogion unigol ar gael. Cytunodd y Gymdeithas Tai i weithredu ar hyn o fewn 2 o wythnos.