Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2026

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202601643

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Y fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf. wedi methu ag ymateb i’w chŵyn cam 2.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu ag ymateb i gŵyn Ms Y. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms Y. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i, o fewn pythefnos, gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Ms Y am yr oedi, cyhoeddi ei hymateb i’r gŵyn cam 2 a chynnig iawndal ariannol o £50 i Ms Y am ei hamser a’i thrafferth yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.