Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2026

Achos yn Erbyn

Grŵp Codi

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202601407

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Grŵp Codi wedi methu â chynnal a chadw stribed o dir sy’n rhedeg y tu ôl i’w heiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â chyfeirio pryderon Mrs B at ei gilydd yn unol â’i gweithdrefn gwynion corfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Mrs B gydag ymddiheuriad am ei methiant i gydnabod a chyfeirio ei phryderon at ei gilydd, ymrwymo i wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y stribed o dir a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn pythefnos. Ar ben hynny, cynigiodd y Gymdeithas dalu iawndal o £50 i Mrs B i gydnabod y diffyg mewn cyfathrebu, gyda’r hyblygrwydd i gynyddu’r swm hwn os oedd angen yn dilyn canlyniad ei hymchwiliad Cam 2.