Dyddiad yr Adroddiad

05/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202300359

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss M bod Cyngor Sir Benfro wedi methu gweithredu atgyweiriadau tai yr oedd wedi adrodd amdanynt, ac at hynny cwynodd nad oedd wedi derbyn ymateb i’r gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu darparu gwybodaeth reolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Miss M am yr oedi a’r methiant i ddarparu gwybodaeth reolaidd ac ystyrlon, a chysylltu â Miss M i drefnu ymweliad ar gyfer y diffygion i’w harsylwi o fewn un wythnos. Cytunodd y Cyngor i gynnig tâl gwneud iawn o £50 i Miss M a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.