Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ag ymateb i’w chŵyn Cam 2 ynglŷn â sut y deliodd y Cyngor â’i Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn Cam 2 Mrs A yn unol â’i weithdrefn gwynion. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad. Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn 3 wythnos, yn ymddiheuro a rhoi eglurhad i Mrs A am yr oedi, ac yn ymateb i’w chŵyn Cam 2.