Cwynodd Ms X ei bod wedi cael ei symud o’i chartref a bod Caredig wedi methu ag ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Caredig wedi cyhoeddi ymateb i’w chŵyn; fodd bynnag, ni dderbyniodd Ms X gopi, ac roedd wedi methu ag ymdrin â’i phryderon ychwanegol. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Caredig i gyhoeddi ei ymateb i’w chŵyn drwy e-bost a phost o fewn 1 wythnos, ac i ddarparu ymateb pellach yn ymdrin â phryderon ychwanegol Ms X o fewn 3 wythnos.