Cwynodd Mr L fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu delio’n briodol â’i adroddiadau am sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o eiddo cyfagos. Cwynodd hefyd am ymateb y Cyngor i’w gŵyn ffurfiol.
Cadarnhaodd y Cyngor gŵyn ffurfiol Mr L a chydnabod y dylai’r cyfathrebu wedi bod yn well, a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt wedi cael eu cymryd yn gynt. Ymddiheurodd i Mr L am y problemau a wynebodd a rhoddodd newidiadau ar waith i atal oedi yn y dyfodol ac i annog cysondeb wrth ddelio â chwynion tebyg. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod argymhelliad o ymchwiliad y Cyngor yn dal heb ei gyflawni. Roedd hyn yn ymwneud â defnyddio system briodol i gofnodi’r holl gamau a gymerwyd gan Swyddogion Tai y tîm Gosod Syml yn ystod ymchwiliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr L i egluro’r system newydd y byddai’n ei rhoi ar waith i gofnodi gwaith ymchwilio, ac i egluro pa fesurau interim roedd yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argymhelliad. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn pythefnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.