Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202408920

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B ynghylch a oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am sŵn a wnaeth ynghylch datblygiad ger ei gartref.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod ymchwiliad y Cyngor i’r adroddiadau am sŵn a wnaed gan Mr B yn briodol, nad oedd y ffordd y cyfathrebudd y Cyngor ag ef yn briodol. Ni chafodd pryderon Mr B eu hystyried yn llawn, ac ni chafodd ei hysbysu am gynnydd yr ymchwiliad i’w gŵyn. Mae’r methiannau hyn yn gyfystyr â chamweinyddu ac yn anghyfiawnder i Mr B, a oedd yn rhwystredig ynghylch y diffyg gweithredu canfyddedig ynghylch ei gŵyn. Cadarnhawyd yr elfen hon o gŵyn Mr B.

Derbyniodd y Cyngor argymhellion yr Ombwdsmon. Cytunodd i ymddiheuro i Mr B am y methiannau cyfathrebu a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad, i atgoffa swyddogion o’r angen i hysbysu achwynwyr am ganlyniad ymchwiliadau ac i sicrhau bod y swyddogion a ymchwiliodd i gŵyn Mr B yn gyfarwydd â Pholisi Cwynion y Cyngor.