Cwynodd Mr A bod Beacon Cymru Group Ltd wedi methu â gweithredu a rhoi canlyniad cwyn y cytunwyd arno ar waith yn briodol. Yn ogystal, dywedodd Mr A bod oedi wedi bod, ynghyd â chyfathrebu gwael.
Canfu’r Ombwdsmon fod cyfathrebu gwael ac oedi wedi bod mewn perthynas â chwyn Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i wneud y canlynol: o fewn 4 wythnos, ysgrifennu llythyr at Mr A i’w ddiweddaru ar y camau arfaethedig ac ymddiheuro am yr oedi; o fewn 8 wythnos, trefnu ymgynghoriad â thrigolion; ac o fewn 2 wythnos i hynny, ysgrifennu llythyr arall at Mr A i’w ddiweddaru ar ganlyniad yr ymgynghoriad.