Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ei dynnu oddi ar restr aros ar ôl i apwyntiad gael ei ganslo gan y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi tynnu Mr B oddi ar y rhestr aros yn anghywir. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr B a phenderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr B i ymddiheuro a chadarnhau ei fod wedi cael ei roi ar y rhestr aros yn y safle y byddai wedi bod ynddo pe na bai wedi cael ei dynnu oddi arni.