Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Materion yn ymwneud â phobl ddigartref gan gynnwys cyn-filwyr a throseddwyr wedi'u hadsefydlu

Cyfeirnod Achos

202510759

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C ei fod dan anfantais oherwydd y ffordd yr ymdriniodd Cyngor Caerdydd â’i gais am dŷ ac nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb digonol i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb diweddaraf y Cyngor i’r gŵyn wedi ystyried yn ddigonol yr wybodaeth ychwanegol yr oedd Mr C wedi’i darparu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i benodi swyddog i ymchwilio i gwynion Mr C, cysylltu ag ef i egluro unrhyw bwyntiau a oedd yn aneglur a darparu ymateb o fewn 1 mis.