Bu i Mr X gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w gŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y cafwyd oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Mr X. Dywedodd fod hyn wedi peri anghyfleuster a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i ddarparu i Mr X erbyn y dyddiad y cytunwyd arno ymateb i’w gŵyn a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig, yn esbonio pam y cafwyd oedi, ac yn cynnig iawndal o £100 i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.