Cwynodd Mr A am y ffordd yr oedd Hedyn wedi delio â’r problemau lleithder a llwydni yn ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn cwblhau’r gwaith atgyweirio a bu cyfathrebu gwael gan Hedyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Hedyn i ymddiheuro, o fewn 3 wythnos, am safon y cyfathrebu a’r oedi cyn cwblhau’r atgyweiriadau ac egluro pam y digwyddodd hyn. Cytunodd Hedyn hefyd i roi esboniad ynghylch pa waith atgyweirio sydd bellach wedi’i gwblhau i ddatrys y mater ac i gynnig taliad ariannol o £150 ar ben y taliad o £100 yr oedd eisoes wedi’i gynnig yn iawndal am yr oedi a’u ffordd o ddelio â’r gŵyn.