Cwynodd Ms A oherwydd ei bod yn anfodlon ar gamau Cyngor Sir Powys mewn perthynas ag atgyweiriadau i’w heiddo. Roedd Ms A wedi bod yn profi problemau parhaus gyda llwydni yn yr eiddo ers iddi symud yno ym mis Tachwedd 2024. Roedd Ms A yn ceisio symud i eiddo gyda dwy ystafell wely.
Ni allai’r Ombwdsmon helpu Ms A i symud i eiddo gwahanol, gan y barnwyd bod camau’r Cyngor mewn perthynas â’i chais am dai yn rhesymol. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon bod angen gwneud gwaith i gael gwared ar y llwydni, ac i ddatrys problemau eraill oedd yn codi, er mwyn sicrhau na fyddent yn dychwelyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A o fewn pythefnos, ac i ddarparu rhestr iddi o’r atgyweiriadau arfaethedig, ynghyd ag amserlen ar gyfer pryd y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau.