Dyddiad yr Adroddiad

18/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202603583

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A ei bod wedi bod yn dioddef o leithder a llwydni yn ei chartref dros y pedair blynedd diwethaf. Dywedodd fod Cyngor Sir Penfro wedi ceisio paentio drosto, ond bod y lleithder a’r llwydni yn parhau i ddod drwodd; o ganlyniad, roedd angen amnewid dodrefn, dillad, teganau a lloriau.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cynnal arolygon lleithder ac ymweliadau â chartref Mrs A yn y gorffennol, nad oedd yn glir a oedd y gwaith trwsio a nodwyd, a’r ymchwiliadau pellach a argymhellwyd, wedi’u cwblhau. Canfu hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gwyn cam 2 Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol: o fewn pythefnos, trefnu gydag Mrs A i gynnal arolygiad llawn o’r lleithder a’r llwydni, a rhoi gwybod iddi am y gofynion mynediad. Hefyd, o fewn pedair wythnos, anfon ymateb i gwyn cam 2 Mrs A, a ddylai gynnwys ymddiheuriad, canfyddiadau’r arolygiad a chamau nesaf y Cyngor, yn ogystal â manylion ar sut i gyflwyno hawliad am iawndal.