Cwynodd Miss B am leithder a llwydni yn ei heiddo, gan ddweud na chafodd y materion sylw er gwaethaf adroddiadau dro ar ôl tro i’r Cyngor.
Nododd yr Ombwdsmon, er i’r Cyngor honni na nodwyd unrhyw broblemau yn ystod arolygiadau diweddar, fod Miss B wedi parhau i adrodd am leithder a llwydni. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd ei gytundeb, i benodi syrfëwr annibynnol o fewn pythefnos. Byddai’r syrfëwr yn cynnal arolwg o fewn chwe wythnos i ystyried y materion yn ymwneud â llwydni, lleithder a strwythur yr adeilad y cwynodd Miss B amdanynt. Cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn wyth wythnos, yn rhoi’r canfyddiadau i Miss B, yn ymgymryd â gwneud unrhyw waith rhesymol a argymhellir, ac – os canfyddir tystiolaeth o ddiffygion – yn ailystyried cŵyn Miss B a’i chais am iawndal.