Dyddiad yr Adroddiad

28/07/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202601999

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A i’r Ymddiriedolaeth nad oedd tacsi di-argyfwng a oedd wedi’i archebu ymlaen llaw wedi cyrraedd i’w gludo i apwyntiad ysbyty, a gofynnodd am ad-daliad am gost tacsi preifat. Cysylltodd Mr A â’r Ombwdsmon pan nad ymatebodd yr Ymddiriedolaeth i’w gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Mr A, nac wedi darparu diweddariad i gadarnhau pryd y byddai’n derbyn ymateb. Dywedodd Mr A fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra iddo.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Mr A a rhoi esboniad am yr oedi. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn, i gynnwys a fyddai’r Ymddiriedolaeth yn anrhydeddu’r cais am ad-daliad.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i gwblhau’r camau gweithredu hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.