Dyddiad yr Adroddiad

10/03/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202509411

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn a dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ddarparu’r ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos, ymddiheuro am yr oedi ac egluro pam y digwyddodd hyn, a chynnig taliad iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr amser a’r drafferth.