Dyddiad yr Adroddiad

05/23/2023

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300239

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi methu darparu ymateb i’w gŵyn a wnaeth ym mis Rhagfyr 2022, ac nad oedd wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau gan yr Ymddiriedolaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi methu darparu gwybodaeth reolaidd ac ystyrlon ar y sefyllfa ddiweddaraf ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i MR B a darparu esboniadau am yr oedi a’r diffyg gwybodaeth reolaidd. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i gynnig taliad gwneud iawn o £50 i Mr B a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.