Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202407037

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss T nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Mai 2024.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi oedi cryn dipyn cyn rhoi ymateb i Miss T. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss T ac esboniad am yr oedi, iawndal o £100 i gydnabod yr oedi, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.