Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202507958

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Practis wedi ymateb i agweddau ar y gŵyn a gyflwynwyd ganddi fis Mehefin 2025.

Canfu’r Ombwdsmon er bod y Practis wedi ymateb, nid oedd wedi ymateb i bob un o’i phryderon. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis y byddai, o fewn 2 o wythnos, yn cynnig ymddiheuriad i Ms A am beidio rhoi sylw i’r holl bryderon ac egluro’r rheswm pam, yn ogystal ag ymateb i’r gŵyn mewn ffordd sy’n rhoi sylw i’r pryderon na chafodd sylw’r tro cyntaf.