Dyddiad yr Adroddiad

15/05/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202600107

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss C y bu oedi y gellid bod wedi’i osgoi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas ag asesu, diagnosio a chefnogi awtistiaeth ac ADHD ei phlentyn. Cwynodd hefyd fod yr oedi’n effeithio ar ganfod cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ei phlentyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd rhai camau i fynd i’r afael â’r pryderon uniongyrchol, ac wedi nodi y byddai adolygiad yn cael ei gynnal, nad oedd wedi mynd i’r afael â’r pryderon penodol a godwyd yng nghwyn Miss C a’r ohebiaeth ddilynol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i Miss C o fewn 1 mis, gan fynd i’r afael â phob un o’i phryderon a’i chwestiynau a nodi unrhyw wersi / camau i’w cymryd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i sicrhau bod unrhyw wybodaeth angenrheidiol i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol y plentyn yn cael ei darparu o fewn 1 mis.