Cwynodd Mr C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi iddo’r gofal a’r driniaeth iechyd meddwl yr oedd eu hangen arno. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi trefnu cyfieithydd i’w gefnogi i gymryd rhan mewn asesiadau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y gofal a gafodd Mr C yn briodol ar rai adegau, ond ar adegau eraill, roedd y gofal yn is na’r safonau gofal clinigol disgwyliedig. Roedd un achlysur arwyddocaol pan na ystyriwyd cais Mr C am gyfieithydd yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr C o fewn 1 mis i ymddiheuro am y ffordd yr ystyriodd ei gais am gyfieithydd. Cytunodd hefyd i rannu’r hyn a ddysgwyd ac adborth gyda staff a rheolwyr o fewn 1 mis, a chwblhau adolygiad o’i bolisi ynghylch y Safon Hygyrch o fewn 2 fis.