Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) i’w chwyn am ofal a thriniaeth iechyd meddwl ei mab. Dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gwrando arni hi na’i mab, ac nad oedd wedi rhoi sylw llawn i’w pryderon. Dywedodd Ms A, heb ei chymorth a’i dyfalbarhad, y byddai anghenion ei mab wedi cael eu diystyru gan y gwasanaeth iechyd meddwl.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio datrys y pryderon cychwynnol yn anffurfiol, bod hynny wedi arwain at gyfnod o 3 mis pryd y mynegodd Ms A bryderon pellach, cyn darparu ymateb ffurfiol. Drwy gamddealltwriaeth a chamgyfathrebu, dywedodd y Bwrdd Iechyd fod Ms A yn fodlon bod ei phryderon wedi cael eu datrys, ond dywedodd Ms A nad oedd hyn wedi cael ei drafod â hi. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod y broses gwyno wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms A a’i mab. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad, a chyfarfod o fewn 6 wythnos, i Ms A a’i mab drafod eu profiad ac unrhyw bryderon sy’n weddill, neu i gyflwyno unrhyw bryderon sy’n weddill yn ysgrifenedig, i’r Bwrdd Iechyd eu hystyried yn unol â’i broses gwyno.